Cinio Ysgol am ddim/ Free school dinners

Dyma neges gan Cyngor Sir y Fflint / A message from Flintshire County Council

 

Gohebiaeth i rieni/gofalwyr trwy Benaethiaid

Disgyblion Blwyddyn 1 a 2 i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Mae Prydau Ysgol am Ddim i holl Blant Ysgolion Cynradd ar gael i’r holl ddisgyblion derbyn ar draws 64 ysgol gynradd yn Sir y Fflint ers mis Medi 2022 ac o 17 Ebrill 2023 bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys holl ddisgyblion blwyddyn un a dau.

 

Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i holl Blant Ysgolion Cynradd yn raddol erbyn 2024, mae 69.8% o’r holl blant derbyn sy’n mynychu’r ysgol yn Sir y Fflint wedi derbyn y cynnig am brydau ysgol am ddim.

 

Bydd disgyblion ym mlwyddyn 3 a 4 yn derbyn y cynnig ym mis Medi eleni (2023) ac mae Sir y Fflint ar y trywydd iawn i fodloni targed Llywodraeth Cymru i’r holl ddisgyblion cynradd dderbyn prydau ysgol am ddim erbyn mis Medi 2024.

 

Nid oes angen i rieni wneud cais i’w plentyn dderbyn Prydau Ysgol am Ddim.  Bydd disgyblion yn y grwpiau blwyddyn cymwys yn derbyn eu prydau ysgol am ddim yn awtomatig oni bai eu bod yn optio allan.

 

Er bod teuluoedd ar incymau is neu sy’n derbyn budd-daliadau penodol yn gymwys am gymorth ar gyfer hanfodion ysgol eraill, nid yw derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn eu gwneud yn gymwys i’w dderbyn yn awtomatig.  Er mwyn elwa o’r cymorth ychwanegol rhaid i rieni/gofalwyr wneud cais. Gellir gwneud cais yn https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Free-School-Meals-and-Uniform-Grants.aspx

 

Gall teuluoedd ar incymau is neu’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau penodol, sydd â phlant ym mlwyddyn 3 neu uwch, neu yn yr ysgol uwchradd, wneud cais am brydau ysgol am ddim a chymorth gyda hanfodion ysgol eraill.  Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Free-School-Meals-and-Uniform-Grants.aspx

 

Communication for parents/carers via Head Teachers

Years one and two pupils to receive Universal Primary Free School Meals

Universal Primary Free School Meals (UPFSM) has been on offer to all reception pupils across all 64 primary schools in Flintshire since September 2022 and from 17th April 2023 this offer will be extended to include all years one and two pupils.

 

Following Welsh Government’s commitment for a phased introduction of UPFSM to all primary pupils by 2024, 69.8% of all reception aged children attending school in Flintshire have taken up the offer of a free school meal.

 

Pupils in years 3 and 4 will receive the offer in September this year (2023) and schools in Flintshire are well on track to meeting Welsh Government’s target of all primary aged pupils by September 2024.

 

Parents do not need to apply for their child to receive UPFSM.  Pupils in qualifying year groups will automatically receive their free school meal unless they opt out.

 

Whilst families on lower incomes or in receipt of certain benefits may be entitled to support for other school essentials, receiving UPFSM does not automatically qualify them to receive it.  To benefit from this additional support parents/carers will need to apply. Applications can be made at www.flintshire.gov.uk/eFSM-E

 

Families on lower incomes or in receipt of certain benefits, whose children are in year 3 and above, or in secondary school, can still apply for a free school meal and help with other school essentials.  For more information go to: www.flintshire.gov.uk/eFSM-E

 

 

http://www.siryfflint.gov.uk | http://www.flintshire.gov.uk
http://www.twitter.com/csyfflint http://www.twitter.com/flintshirecc