PWYSIG / IMPORTANT

Rydym am ail-edrych ar drefniadau diogelu y safle yn dilyn sawl pryder sydd wedi codi gan staff a llywodraethwyr.  Mae’r bore a ddiwedd dydd yn achosi pryderon oherwydd y gall unrhyw unigolyn gerdded i mewn i’r ysgol a chael mynediad i fuarth yr ysgol.  Hefyd, mae nifer o ddisgyblion yn chwarae ar y llwybr antur heb eu goruwchwylio.  Felly, er mwyn sicrhau diogelwch, bydd y giatiau ar glo tan bydd y staff yn barod i dderbyn y disgyblion am 8.50yb.  Yna, ar ddiwedd y dydd, byddwn yn agor y giat er mwyn i’r disgyblion ddod allan o’r ysgol.  Nodwch, ni fydd rhieni/gwarchodwyr/ymwelwyr yn cael mynediad i fuarth yr ysgol er mwyn cadw pawb yn ddiogel.  Os gwlewch yn dda, gwelir y daflen sy’n egluro yr uchod. Byddwn yn gwerthuso hyn ac yn ail drefnu os oes angen. Os oes gennych unrhyw bryder neu broblem gyda’r trefniadau yma, cofiwch gysylltu gyda’r ysgol i drafod.

 

Hoffwn hefyd eich atgoffa na ddylai unrhyw blentyn na rhiant gerdded drwy y maes parcio ar unrhyw adeg. Gofalwch eich bod yn cadw at y llwybrau sydd o gwmpas yr ysgol os gwelwch yn dda.

 

Following safety concerns raised by staff and governors, we have reorganised our arrangements at the beginning and the end of the day in order to ensure safety of all pupils.  One concern raised was that anyone could walk onto the school yard during this time and gain access into the yard.   Also, several pupils are playing on the adventure trail without supervision. Therefore, to ensure safety, the gates will be locked until staff are ready to receive the pupils at 8.50am. Then, at the end of the day, we will open the gate for the pupils to come out of school. Please note parents, guardians and visitors will not be allowed to access the school yard in order for us to keep everyone safe. Please see the leaflet explaining the above. We will evaluate this and re-arrange if necessary. If you have problems or concerns for your child with these new arrangements, please contact us do discuss the matter.


Can we also remind you that no parents or children should be walking through the car park at anytime. Please ensure that you use the paths around the school.  

pdf icon PWYSIG-IMPORTANT.pdf