URDD 2024

Bydd paratoadau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn dechrau tymor yma! Gweler yr holl fanylion a’r dyddiadau pwysig ar yr atodiadau. 

Cofiwch – mae’n rhaid i bob disgybl fod yn aelod o’r Urdd os ydynt eisiau cystadlu yn yr Eisteddfod neu yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd. Gallwch ymaelodi eich plentyn drwy ddilyn y linc isod.

Ymuno | Urdd Gobaith Cymru

Hefyd, cofiwch eich cyfrifoldeb chi fel rhieni ydy cofrestru eich plentyn i gystadlu – byddwn yn rhannu cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn efo chi’n fuan. Wrth ddilyn y linc isod, fe welwch Rhestr Testunau ar gyfer yr Eisteddfod hefyd. Fe fydd yr ysgol yn hyfforddi rhai cystadlaethau yn yr ysgol ac fe fydd mwy o fanylion am hyn i ddilyn wythnos nesaf. 

Cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2024 | Urdd Gobaith Cymru

PWYSIG – Os ydych yn awyddus i’ch plentyn gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni ar unrhyw gystadleuaeth Dawns neu Offerynnol, mae’n RHAID cofrestru nhw erbyn Dydd Llun, Ionawr 22ain.


Cystadlaethau eraill yr Eisteddfod – Dydd Llun, Chwefror 5ed


Unrhyw gwestiwn, cofiwch gysylltu gyda’r ysgol. 

The Urdd Eisteddfod preparations will begin this term.  Please see all of the details and the dates on the attachments.


Please remember – that each pupil must be a member of the Urdd to compete at the Eisteddfod or to take part in the Arts and Crafts competitions. You can do this by following the link below.


Join | Urdd Gobaith Cymru


Also, please remember that it is your responsibility to register your child to compete – we will share instructions on how to do this with you soon. Also, please follow the link to see the syllabus. The school will teach some competitions in school and more details about this will be shared with you next week.


Competing Eisteddfod yr Urdd 2024 | Urdd Gobaith Cymru


IMPORTANT – If you wish you child to compete on one of the Instrumental or Dance competitions this year, they MUST be registered by Monday, January 22nd.

All other Eisteddfod competitions – February 5th.


Any questions, please contact the school.